60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yw eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Etholwyd 40 gennych drwy bleidleisio yn ein hetholiad ym mis Tachwedd 2018. Cafodd y 20 arall eu hethol gan bobl Ifanc o sefydliadau partner. Drwy roi’r senedd at ei gilydd fel hyn, roeddem yn gallu sicrhau bod gennym gynrychiolaeth o grwpiau amrywiol o bobl Ifanc.