Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

28 Gorffennaf 2016

Gwyliwch ein cyfweliad gyda Bethan Jenkins AC yfory i ddysgu am Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd, ei amcanion ar gyfer y Pumed Cynulliad a sut y gallwch gael dweud eich dweud ar flaenoriaethau gwaith y Pwyllgor.

Ydych chi'n frwd dros y celfyddydau? Yr iaith Gymraeg? Darlledu a'r cyfryngau yng Nghymru? Rydym am i chi roi gwybod beth yw eich syniadau. Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod sut!
Bethan Jenkins AC yw Cadeirydd Pwyllgor newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddiwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Grŵp o wyth o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru yw'r Pwyllgor, a’r rheiny’n cynrychioli’r pum plaid wleidyddol sy’n ffurfio’r Cynulliad. Eu rôl yw edrych ar bethau fel diwylliant, y Gymraeg, darlledu a'r cyfryngau a gofyn barn pobl a sefydliadau yng Nghymru amdanynt. Drwy wneud hyn, gall y Pwyllgor sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y pethau hyn yn cael eu gwneud er budd pennaf Cymru a'i phobl.

Mae Bethan Jenkins AC yn sôn am yr hyn y mae'n gobeithio y gall y Pwyllgor ei gyflawni yn ystod y Pumed Cynulliad, ac mae’n awyddus i wybod a oes gennych chi syniadau yr hoffech eu rhannu am y materion hyn ac am eu blaenoriaethau gwaith.

Mwy o’r Senedd: Y Fideos Diweddaraf