Ein Digwyddiadau

Darlith Goffa Flynyddol Rhodri Morgan

Darlith Flynyddol Gyntaf er cof am Rhodri Morgan yn cael ei chyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac Academi Morgan Prifysgol Abertawe. Traddodir y ddarlith flynyddol gyntaf er cof am Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yn y Senedd ddydd Mawrth, 25 Medi. Bydd Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, yn cymharu’r cynnydd a wnaed o ran sicrhau hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru a’r Alban ers datganoli, gan ganolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd ac hefyd beth sy’n weddill i’w wneud. Bydd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, yn ymateb i Mr Adamson wrth gynnig pleidlais o ddiolch iddo. Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan yr Athro Mike Sullivan, Cyfarwyddwr Academi Morgan a chyn-Gynghorwr Arbennig i Rhodri Morgan. Mae’r Athro Sullivan yn ysgrifennu cofiant gwleidyddol am Rhodri. Dywedodd yr Athro Sullivan: “Wrth sefydlu ein partneriaeth, gan gynnwys y gyfres hon o ddarlithoedd, penderfynodd Academi Morgan a’r Brifysgol y byddai’r darlithoedd yn canolbwyntio ar unrhyw fater a oedd o ddiddordeb arbennig i Rhodri. “Am fod ei ddiddordebau mor eang, yn wleidyddol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac ym maes chwaraeon, mae hen ddigon o ddeunydd gennym! “O ystyried ei ymrwymiad angerddol i hawliau dynol plant a phobl ifanc, ac o ystyried y cynnydd a wnaed yng Nghymru yn y maes hwn o dan ei arweinyddiaeth, gan gynnwys sefydlu swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae’n briodol mai hawliau plant fydd testun darlith goffa gyntaf Rhodri Morgan. “Daw Bruce Adamson â safbwynt rhyngwladol diddorol i’r hyn a gyflawnwyd, ac i’r heriau sy’n ein hwynebu o hyd.” Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: ‘Rydym yn falch o gael cynnal y ddarlith goffa gyntaf yma yn y Senedd. “Heb amheuaeth, bydd hanes yn cofio Rhodri fel un o’r mawrion ym mlynyddoedd cynnar datganoli ac mae’n hollol briodol bod y ddau sefydliad hyn, ein Cynulliad Cenedlaethol a Phrifysgol Abertawe, yn cydweithio fel hyn er cof amdano, gan eu bod ill dau yn golygu cymaint iddo. “Arbennig o addas yw’r ffaith y bydd y ddarlith gyntaf yn canolbwyntio ar hawliau dynol plant a phobl ifanc yn yr un flwyddyn ag y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru. “Rwy’n edrych ymlaen at glywed yr heriau a fydd gan Gomisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban i ni wrth inni weithio gyda’n gilydd i wireddu hawliau plant.” Meddai Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban: “Braint o’r mwyaf yw cael fy ngwahodd i draddodi’r ddarlith gyntaf hon i goffáu Rhodri Morgan. “Mae cynnydd tuag at gyflawni agenda hawliau plant yn dibynnu bob amser ar hyrwyddwyr yn y byd gwleidyddol, ac heb amheuaeth roedd Rhodri Morgan yn hyrwyddwr rhagorol. “Gwnaethpwyd llawer yng Nghymru a’r Alban ers datganoli i ymgorffori dulliau a diwylliant sy’n seiliedig ar hawliau, ond mae llawer i’w wneud o hyd. “Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu i’r ddadl ynghylch yr hyn sydd angen digwydd nesaf.”