Sesiwn Senedd Ieuenctid Cymru 21/06/23
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu argymhellion pobl ifanc Cymru, yn ôl Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru (ASIC). Wrth rannu’r Siambr ag aelodau Senedd Cymru, gofynnodd ASICau eu cwestiynau i weinidogion Llywodraeth Cymru wrth i’r ddwy senedd gwrdd ar y cyd am yr eildro erioed. Manteisiodd yr aelodau ifanc ar y cyfle i holi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS ynghylch y tri phwnc sy’n flaenoriaeth i’r Senedd Ieuenctid sef: Addysg a’r cwricwlwm ysgol, yr hinsawdd a’r amgylchedd, ac iechyd ...